'Amser Bwyd' gan S. Minwel Tibbott
Eitemau yn y stori hon:
Y Ryseitiau
Pennod | Nifer mewn bob pennod |
---|---|
Blasusfwyd | 39 rysáit |
Teisennau radell | 23 rysáit |
Teisennau | 26 rysáit |
Bara | 16 rysáit |
Bwydydd llwy | 17 rysáit |
Pwdinau | 23 rysáit |
Pysgod | 30 rysáit |
Cyffaith | 4 rysáit |
Cyflaith | 4 rysáit |
Diodydd | 15 rysáit |
Rhagair
Rhan ganolog o waith Amgueddfa Werin Cymru o’r dechrau ym 1948 fu cofnodi a chasglu, astudio ac arddangos bywyd gwerin Cymru yn ei holl agweddau. Gyda dyfodiad y peiriant recordio death cyfle i holi ac i gofnodi ar lafar, ac y mae bellach gryn gorff o wybodaeth am fywyd traddodiadol ein gwlad ar gadw gan Adran Traddodiadau Lafar a Thafodieithoedd yr Amgueddfa Werin. Wrth dderbyn tystiolaeth y trigolion hynaf a fu mor barod eu cymwynas ac mor groesawgar, y mae dyled ar yr Amgueddfa Werin nid yn unig i gadw’r wybodaeth hanesyddol hon am ein gorffennol yn ddiogel ar gyfer ysgolheigion y dyfodol, ond hefyd, lle bo’n briodol, i’w chyflwyno i ddarllenwyr Cymraeg cyfoes fel rhan o’u cynhysgaeth. Cyflwynir y gyfrol hon, felly, fel blaenffrwyth y cynhaeaf llafar a gasglwyd ynghyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan aelodau yr Adran Traddodiadau Llafar a Thafodieithoedd. Disgwylir, cyn hir, ddwyn cyfrolau eraill tebyg i olau dydd.
Mrs. S. Minwel Tibbott, o’r Adran honno, a baratoes y gyfrol hon gan ddefnyddio tystiolaeth nifer mawr o siaradwyr ar hyd a lled Cymru a fu’n fodlon rhannu eu gwybodaeth am hen fwydydd â hi. Pleser yw cydnabod help y cyfeillion hyn, a diolch iddynt am eu cydweithrediad.
Chwefror 1974
Trefor M. Owen, Curadur
Amgueddfa Werin Cymru
Ym 1976, ymddangosodd argraffiad Saesneg o’r gyfrol “Amser Bwyd” o dan y teitl “Welsh Fare”, ac erbyn hyn death galw am ail argraffiad o “Amser Bwyd”. Ar wahân i fân newidiadau yng nghynllun a rhwymiad y gyfrol ynghyd â gwella ansawdd y lluniau, y mae’r ail argraffiad yn atgynhyrchiad o’r gyfrol wreiddiol.
Ebrill 1978
Trefor M. Owen, Curadur
Amgueddfa Werin Cymru
Rhagymadrodd
Bwydydd y Cymry gynt a drafodir yn y gyfrol hon. Y mae bwyd a diod pob cenedl yn rhan annatod o’i threftadaeth, a’r angen am ddiogelu’r rhan honno o fywyd ein cenedl ni, y Cymry, a ysgogodd baratoi’r gyfrol.
Carwn bwysleisio mai detholiad o gyfarwyddiadau a geir yma ac nid astudiaeth ysgolheigaidd o hanes bwydydd yng Nghymru. Bwriad y gyfrol yw dadlennu rhyw gymaint ar hanes y bwydydd drwy gyfrwng y cyfarwyddiadau eu hunain ynghyd â’r nodiadau eglurhaol a ychwanegir at rai ohonynt. Y mae’r ffaith fod unrhyw un o’r bwydydd wedi’i gynnwys yn y casgliad yn dangos bod iddo ei le ei hun yn hanes bwydydd Cymru.
Ni ellir roi ffiniau pendant i gyfnod y bwydydd yr ymdrinnir â hwy. Gwyddys i sicrwydd eu bod mewn bri ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf ac ar ddechrau’r ganrif hon, cyfnod sydd o fewn cof y genhedlaeth hynaf o Gymry sydd yn fyw heddiw. Eu profiad helaeth hwy o baratoi’r bwydydd hyn yw prif ffynhonnell y dystiolaeth y mae’r gyfrol wedi’i seilio arni. Y mae’r dystiolaeth hon ar gof a chadw yn Amgueddfa Werin Cymru, naill ar ffurf ymddiddan wedi’i gofnodi ar dâp, neu mewn llawysgrif. Teg yw cymharu ryseit efallai â chân werin neu stori werin; trosglwyddir pob un ohonynt ar lafar, o berson i berson, o genhedlaeth i genhedlaeth, ac yn sgîl y trosglwyddo gweddnewidir rhyw gymaint arnynt yn ôl angen neu ddyfais neu ball ar y cof. O ganlyniad, ceir mân amrywiadau ar gynnwys ac ar ddull paratoi llawer o’r bwydydd. Am yr un rheswm, ni ellir nodi’n fanwl gywir yr union swm o bob un o’r defnyddiau crai sydd yn angenrheidiol er paratoi’r bwydydd hyn. Ni fyddai’r genhedlaeth hŷn yn pwyso nac yn mesur ond yn gweithredu yn ôl ‘synnwyr y fawd’ bob tro. Felly, gofynnir i’r darllenydd ystyried y mesurau a nodir fel canllawiau y gellir eu haddasu yn ôl y galw.
Bwydydd y bobl gyffredin yw’r rhai sydd o dan sylw yn y gyfrol hon. Syml yw eu cynnwys a syml oedd y dull o’u paratoi a’u coginio, yn ôl y defnyddiau crai a’r cyfleusterau coginio a oedd wrth law; er hynny, amlygir crefft gwraig y tŷ yn y paratoi a’r coginio hwnnw. Disgwylid y bydd y mwyafrif o’r bwydydd hyn yn ad-ennill eu lle ymhlith ein prydau nwyd heddiw, ond cofnodir y rhelyw, y rhai llai blasus efallai, oherwydd eu pwysigrwydd hanesyddol yn bennaf.
Ni wneir ymgais i gyfeirio at bob bwyd y gwyddys amdano ac nid anelir at gynrychioli pob ardal drwy Gymru gyfan o fewn cloriau’r gyfrol hon. Detholiad o fwydydd Cymru a gyflwynir yma ac fe gynhwysir lluniau i ddangos yr hen ddulliau o baratoi a choginio rhai ohonynt. Hyderir y bydd y gyfrol yn gyfrwng i agor celloedd cof y darllenydd ac os gwêl ef fod bylchau amlwg ynddi, apelir ato i drosglwyddo unrhyw wybodaeth bellach i’r Amgueddfa Werin.
Pwysau a mesur
Tymheredd Ffwrn/Popty (bras amcan)
- poeth - hot: Trydan 425°F (218°C), Nwy Marc 7 / G
- gweddol boeth - medium: Trydan 350°F (177°C), Nwy Marc 5 / E
- araf - slow: Trydan 250°F-275°F (130°C-140°C), Nwy Marc 1-2 / B
Pwysau: cyfwerth metrig cyfwerth metrig
- ¼ owns — 7.09g
- ½ owns — 14.17g
- 1 owns — 28.35g
- ¼ pwys — 113.04g
- ½ pwys — 227.00g
- 1 pwys — 454.00g
- 2 bwys — 907.00g
- 3 phwys — 1361.00g
Hylif: cyfwerth metrig
- 1 owns hylif — 28.4ml
- ¼ peint — 142.0ml
- ½ peint — 284.0ml
- 1 peint — 568.0ml
- 1 chwart — 1137.0ml
Geirfa
- ageru — to steam
- ansawdd — consistency
- ceulo — to curdle
- diwrnod ceulo — cheese-making day
- cimwch, ll. cimychiaid — lobster – s
- clowsen, ll. clows — clove – s
- cocyn — pyramid
- cochi — to smoke
- colfran — curds
- corbys — lentils
- cranc, ll. crancod — crab – s
- crasu — to bake, toast
- crimpio — to crisp
- crwst brau — short pastry
- curo — to beat
- cytew — batter
- cytew llyfn — a smooth batter
- cytew ysgafn — a light batter
- ffenigl — fennel
- ffwrn — oven
- go-ferwi — to poach
- gogryn — to sift
- gradell — bakestone, griddle
- gwichiad, ll. gwichiaid — periwinkle – s
- gwyniedyn, ll. gwyniaid — sewin – s
- gyrru — to roll out
- hidlo — to strain
- isgell — stock, broth
- llaeth — milk
- llaeth enwyn — buttermilk
- llechfaen — bakestone, griddle
- lled-ferwi — to parboil
- llefrith — milk
- llwy — spoon
- llwy bwdin — dessert spoon
- llwy fwrdd — table spoon
- llyfn — smooth, without lumps
- llygaid meheryn/y graig — limpets
- llymrïaid — sand eels
- llysiau cymysg — mixed herbs
- maeddu — to knead
- maen — bakestone, griddle
- malu — to crush
- malwr — mincer
- malwr bara ceirch — oatcake crusher
- moldio — to knead lightly
- mud-ferwi — to simmer
- mwydo — to soak
- ‘nionyn, ll. ‘nionod — onion – s
- olew mintys poethion — oil of peppermint
- pennog, ll. penwaig — herring – s
- planc — bakestone, griddle
- popty — oven
- potes — broth, stock
- potsho — to mash
- powdr codi — baking powder
- powdr tartar — cream of tartar
- pwnno — to mash
- rhidyll bras — colander
- rhython — cockles
- siwgr — sugar
- siwgr coch — brown sugar
- siwgr llaith — moist sugar
- siwgr lwmp — lump sugar
- soda pobi — bi-carbonate of soda
- sosban ddwbl — double saucepan, steamer
- sylwedd — essence
- tawelu — to settle
- triagl melyn — golden syrup
- trwyth — infusion
- tylino — to knead
- winwnsyn, ll. winwns — onion – s
- ysgadenyn, ll. ysgadan — herring – s