Ar Garreg Eich Drws - Catalogau Gwerthu

1894 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio catalogau gwerthu fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai neu swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.

Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio ffynonellau cynradd yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Hanes, Daearyddiaeth

Oed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer Cam Cynnydd 3.

 

Cwricwlwm i Gymru

Age: 8-11 / Progression Step 3
Age: 8-11 / Progression Step 3

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

Catalogau_gwerthu.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) Sales_catalogues.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw