Hanes yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia

1781 wedi gweld yr eitem hon

Cover image

Disgrifiad

Roedd allfudo yn agwedd bur gyffredin o fywyd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyni economaidd oedd yn bennaf gyfrifol am achosi i filoedd o Gymry adael eu hardaloedd genedigol a cheisio bywyd gwell yn y Taleithiau Unedig. Eto, er bod gobaith am well safon byw yng Ngogledd America, roedd nifer o allfudwyr yn ymwybodol o'r perygl iddynt golli eu nodweddion Cymreig wrth iddynt ymdoddi i’r diwylliant Americanaidd. Sylwodd Michael D. Jones ar y duedd hon pan oedd ar ymweliad â’r Taleithiau Unedig ym 1848-9 a chafodd ei argyhoeddi bod angen sefydlu setliad Gymreig ym Mhatagonia i amddiffyn iaith, arferion a chrefydd ei gydwladwyr. Yng ngolwg Michael D. Jones, dim ond gwladfa lle rhoddid statws swyddogol i’r iaith Gymraeg a fyddai’n caniatáu i hunaniaeth genedlaethol yr ymfudwyr flodeuo’n ddirwystr. 

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Dyniaethau

Hanes

Oed: 11-14 / Cam Cynnydd: 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o naw yn ymwneud â Phatagonia ar gyfer Cam Cynnydd 4.

 

Cwricwlwm i Gymru

Age: 11-14 / Progression Step 4
Age: 11-14 / Progression Step 4

Lawrlwytho'r Adnodd Dysgu

hanes-yr-iaith.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd) welsh-language.pdf (Yn agor mewn ffenestr newydd)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw