Disgrifiad

Heb os, 'Myfanwy Fychan o Gastell Dinas Bran' gan John Ceiriog Hughes (1832-87) oedd un o gerddi mwyaf poblogaidd Cymru oes Victoria. Gwobrwywyd y rhieingerdd (cerdd serch) hon yn Eisteddfod Fawr Llangollen, 1858, a gwnaeth argraff fawr ar Gymry'r oes. Yn ôl un sylwebydd cyfoes: 'Rhoes "Myfanwy" dant newydd yn nhelyn Cymru ... dyma gân na raid i'r gwladwr symlaf wrth eiriadur er deall ystyron ei gieiriau. Ni ddigwyddodd i mi erioed gyfarfod ag un dyn a ddarllenodd Riangerdd Llangollen ... heb gael ei foddhau, pa faint bynag o gén rhagfarn fyddo ar ei feddwl, neu pa mor ddiawen bynag y bo. Y mae ynddi rywbeth i foddio pob chwaeth ond yr amhur'.

Ganed Ceiriog yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Sir Ddinbych. Treuliodd gyfnod ym Manceinion a bu'n gweithio fel clerc ar y rheilffordd yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru ym 1868 pan gafodd ei benodi yn orsaf-feistr yng Nghaersŵs. Roedd Ceiriog wedi dechrau barddoni ers rhai blynyddoedd ond ni chyhoeddwyd ei waith hyd 1860 pan ymddangosodd y gyfrol 'Oriau'r Hwyr'. Dilynwyd hon gan sawl cyfrol arall, gan gynnwys 'Oriau'r Bore' (1862) a 'Cant o Ganeuon' (1863) - cyfrolau sy'n cynnwys ei waith mwyaf poblogaidd. Mae'n debyg mai ei ganeuon telynegol oedd ei weithiau mwyaf poblogaidd ac mae rhai, fel 'Nant y Mynydd' ac 'Alun Mabon', yn parhau i gael eu canu a'u hadrodd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau hyd heddiw.

Ffynhonnell: Hywel Teifi Edwards, 'Ceiriog' (Caernarfon, 1987).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw