Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr ysgrifennwyd i Thomas Benbow Phillips gan Michael D Jones o Fodiwan, Y Bala dyddiedig 12 Mawrth 1867

Awgrymodd Michael D Jones efallai fod Thomas Benbow Phillips wedi darllen am y cam olaf yn hanes y Wladfa Gymreig yn y Buenos Aires Standard. Roedd y cnwd gwenith wedi difetha oherwydd y sychder mawr, ac roedd rhai o'r Gwladfawyr wedi ystyried symud i Patagones gan nad oedd y sychder mor ddrwg yno. Fodd bynnag, roedd y gwartheg yn ffynnu ac roedd digonedd o laeth, menyn a chaws. Roedd y ceffylau, moch a ffowls hefyd yn lluosi. Roedd 200 o Indiaid wedi ffeirio quillangoes, plu estrys, cŵn, ceffylau a geifr am fara, blawd, matti, te, coffi a thybaco. Credid fod y Gwladfawyr wedi gwneud tua £1,000 o elw. Bwriadai Evan Ellis Jones o Awstralia a Mr W Hughes o Wisconsin yn UDA ( a feddai ar gyfoeth o tua £3,000) deithio i'r Wladfa gyda defaid. Ymfudwr profiadol cyfoethog arall oedd Mr D Williams o Efrog Newydd, a bwriadai ef deithio i'w Wladfa gydag offer amaethu, a melin. Credai Michael D Jones fod Mr Lewis Jones wedi ei drin yn annheg, ac mai ei ddiffyg profiad oedd wedi effeithio ar ei benderfyniadau anghywir. Roedd llong ar ei ffordd i'r Wladfa, a gobeithiai y byddai'n bosibl ehangu'r fasnach gyda'r Indiaid. Awgrymodd y dylai Thomas Benbow Phillips fynd ag esgidiau, matti, blawd, tybaco a chyfrwyau ar gyfer yr Indiaid.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw