Disgrifiad

Gwisg: Het, cap, ffedog, betgwn, sgert, pais, hances ac yn cario gwaith gweu a bwced metel. Corff: Pren, breichiau a choesau cymalog a chymalau tyno. Wyneb a choesau wedi paentio. Het: Ffelt Cap: Mwslin gyda border les Taldra : 32.2cm heb het. Sylwadau cyffredinol: Betgwn o gotwm wedi’i brintio gyda choler gron Dyddiad: Gwisg o 1851 ar gorff yn dyddio o 1825-1830. Hanes: Dilladwyd yn Nhreffynnon gan fodryb y rhoddwr, Mrs Maria Higgins, yn ystod hydref 1851.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw