Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Gwisg: Het, betgwn, sgert, pais, dillad isaf, sanau, hances a siòl. Corff: Pen crochenwaith bisg gyda gwallt melyn wedi mowldio. Y pen yn rhydd. Y corff wedi’i stwffio â gwellt a charpiau. Rhan ucha’r breichiau yn weiren gyda blaen y breichiau o briddwaith heb wydriad. Peg pren yw rhan ucha’r goes yn cysylltu â gwaelod y goes o briddwaith heb wydriad. Rhan isaf y goes dde ar goll. Mae rhai o’r dilladau wedi’u pinio i’r corff. Nodau cynhyrchu ar yr ysgwydd yn dynodi: 285 7/0. Het: sidan plwsh Cap: dim Taldra: 27.5cm heb het. Sylwadau cyffredinol: Gŵn nos byr wedi’i greu o dri darn – un ar gyfer y bodis a dwy fraich ar wahân. Mae’r bodis yn dod at y glun a’r chwith yn plygu dros y dde yn y blaen gyda’r hem wedi’i siapio’n grwm. Dyddiad: 1855-1860 Hanes: Rhoddwyd gan Trefor M Owen, M.A., F.S.A, o Brestatyn, Sir y Fflint.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw