Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ysgrifennwyd y thyryr yma gan David Rees o Trelew wedi iddo dderbyn gair fod ei dad, David Gwilym Rees wedi marw(21/11/1837 - 17/11/1905). Pan ysgrifennwyd y llythyr hwn roedd eu mham, Gwenllian Gwilym Rees hefyd wedi mawr (18/8/1842 - 29/1/1906) ond fod y newyddio ddim wedi cyrraedd David ac William yn y Wladfa eto.
Erbyn yr amser hwn roedd David ac William wedi dechrau ar ofalu am stad eu brawd Rees. Gyda William wedi mynd fyny i’r Andres i ofalu am y fferm. Esboniai yn y llythyr bod 650 o wartheg ac ychain ac 150 o geffylau ar y fferm ond deos dim hawl gyda nhw eto i werthu dim ohonynt. Esboniai i’r teulu adref fod Rees wedi bod yn sal am chwe wythnos cyn iddo farw (18/7/1905).

David Gwilym Rees a William Gwilym Rees oedd meibion David Gwilym Rees (yr un enw) a Gwenllian Gwilym Rees. Cartref y teulu oedd Pencaerlan, Blaenbulais, Castell Nedd. Anfonwyd y dau frawd allan i Batagonia yn 1905 ar ol clywed am farwolaeth eu brawd Rees (Rhys) Gwilym Rees a ymfudodd yno oddeutu 1885. Bwriad y daith i’r Wladfa oedd i ofalu a setlo stad ei brawd ond yno arhosodd y ddau ac bu farw nhw hefyd yn Y Wladfa. Mae llinach David Gwilym Rees yn parhau yn Gaiman hyd heddiw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw