Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

LAURA McALLISTER hanes pêl-droedwraig Fy enw i yw Laura McAllister. Cefais fy ngeni ym Mhen-y-bont yn 1964. Dwi'n byw rhwng Lerpwl a Chaerdydd ar hyn o bryd, achos dwi'n gweithio fel Athro Llywodraethu ym Mhrifysgol Lerpwl ac fel Cadeirydd Chwaraeon Cymru. Dim ond ym mis Chwefror 2010 y cymerais i'r awenau. Roeddwn i'n Is-gadeirydd ac yn aelod o'r Bwrdd cyn hynny, felly dydw i ddim yn newydd i'r sefydliad. Dwi wedi ceisio bod yn Gadeirydd strategol. Dwi'n gweld fy rôl i mewn gwirionedd fel un o gynnig a hybu gweledigaeth ac arweiniad i chwaraeon yng Nghymru. Ceisio gwthio ffiniau'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud, fel bod chwaraeon yn dod yn rhan annatod o feddylfryd y cyhoedd a bod cysylltiad rhwng chwaraeon ag agendâu eraill, fel nad oes rhaid inni ymladd ein hachos yn rhy galed. Dylai gwerth chwaraeon o safbwynt iechyd, o safbwynt cydlyniad cymdeithasol ac o safbwynt addysg a sgiliau fod wedi'i sefydlu'n gryf ym meddyliau pobl ac ym meddyliau'r gwleidyddion yn arbennig, gan mai nhw sy'n rheoli'r arian. Mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n deall nad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn unig y mae gwerth yr hyn yr ydym yn ei wneud; mae'n dylanwadu ar iechyd y genedl ac ar gyflawni a llwyddo a phroffil y genedl hefyd. Mae pawb yn sylweddoli maint y sialensiau sy'n ein hwynebu dros y pedair neu bum mlynedd nesaf a hyd yn oed yn hirach na hynny efallai. Bydd y math o ddiffygion ariannol sydd gennym yn cymryd cryn dipyn o amser i ddelio â nhw, ond byddwn yn synnu'n fawr iawn os nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn deall fod torri'r nawdd i chwaraeon yn beth peryg iawn i'w wneud, oherwydd rydych yn colli cenhedlaeth o blant i chwaraeon, rydych yn rhoi profiadau gwael iddynt mewn addysg gorfforol yn yr ysgolion, rydych yn ei gwneud yn anoddach i glybiau gynnig profiadau hyfforddi da, ac yn ei gwneud hi'n anoddach i gymunedau gael cyfleusterau da. Ac mae hynny'n golygu costau uwch i'r GIG, lefelau sgiliau a chyflawni gwael, llai o gydlyniad cymdeithasol, a mwy o blant yn cael eu hallgáu o gymunedau. I mi, mae'r peth mor amlwg. Mae'n rhan lawn mor bwysig o'n gwariant ag unrhyw gyllideb arall a byddaf yn dweud hynny'n gryf iawn wrth y llywodraeth. pêl-droed Pêl-droed oedd fy nghamp gyntaf. Roeddwn i wastad wedi bod yn blentyn oedd yn hoff o chwaraeon, wedi dwlu ar chwaraeon o'r tro cyntaf y cefais fy nghyflwyno iddynt. Dwi'n cofio cicio pêl yn yr ardd gyda 'nhad, a thaflu a dal a chwarae criced gyda 'nghefndryd, a dwlu ar y wefr a gawn wrth wneud gweithgarwch corfforol. Yn sicr fe ddatblygais ysbryd cystadleuol yn ifanc iawn. Dwi'n meddwl fod hynny'n dod o chwarae gyda bechgyn a chael y teimlad wrth gymryd rhan fod ennill yn bwysig hefyd. Wrth gwrs, rydyn ni'n derbyn nad yw pawb yn teimlo fel hynny a'i bod yn bwysig eich bod yn cymryd rhan am hwyl, ond i mi, roeddwn i'n blentyn cystadleuol iawn ac roeddwn yn dwlu ar chwaraeon o bob math felly roeddwn i'n chwarae popeth. Cyn gynted ag yr es i i'r ysgol, roeddwn yn dwlu ar bêl-rwyd, rownderi, hoci, athletau, ac roeddwn i'n rhedwr gweddol - bu hynny o ddefnydd imi ym myd pêl-droed. Roeddwn i'n gyflym iawn, hyd yn oed yng nghyd-destun pêldroed rhyngwladol. Roeddwn i'n rhedeg pellter canol, yn chwarae, yn ymarfer gyda YMCA Pen-ybont i ddechrau, ac roedd fy ffrind gorau o'r ysgol, Wayne Richards, a fi yn arfer mynd i ymarfer yn y twyni tywod o'r adeg pan oedden ni'n 12, 13 ymlaen, felly roedd gen i gefndir mewn chwaraeon. Ro'n i'n gapten ar y timau pêl-rwyd a hoci yn Ysgol Gyfun Bryntirion. Dwi wastad wedi dwlu ar bêl-droed. Dwi'n gefnogwr brwd i glwb Dinas Caerdydd. Roedd fy nhad-cu'n arfer bod yn rhan o Glwb Cefnogwyr Maesteg ac fe aeth e â fi pan oeddwn i'n ifanc iawn ac yna, pan fu e farw a minnau'n eithaf ifanc, fe aeth un o'i ffrindiau o Ben-y-bont, dyn o'r enw Bill Bowen, a oedd yn arfer byw y tu ôl i Heol Coety, â fi i'r gemau i gyd. Byddai mam yn fy ngadael yng ngorsaf fysiau Pen-y-bont ar fore Sadwrn ac fe fyddai'r amser y bydden ni'n cwrdd yn dibynnu ar ble'r oedden ni'n mynd i chwarae, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble'r oedd unrhyw un o'r llefydd hynny. Fe allai fod yn Hartlepool neu Carlisle neu Birmingham neu unrhyw le, ond i mi roeddwn i'n mynd i weld 'Y Ddinas'. Felly, wnes i erioed feddwl mai rhywbeth i fechgyn yn unig oedd pêl-droed. Roeddwn wedi chwarae yn yr ysgol ac roeddwn wedi chwarae gyda fy nghefndryd a'm ffrindiau, felly doeddwn i ddim yn meddwl mai camp i fechgyn oedd pêl-droed. Ond, yn amlwg, doedd dim cyfleoedd o'r math sydd ar gael nawr i ferched chwarae pêl-droed wedi'i drefnu'n iawn, felly wnes i ddim chwarae'n iawn nes imi fynd i'r brifysgol. Pan es i Lundain, fe chwaraeais am gyfnod i Lewesau Milwall, a oedd yn un o'r timau mawr yn y dyddiau hynny. Roedden nhw'n un o'r timau menywod mwyaf llwyddiannus. Roedd ganddyn nhw hyfforddwr da a llawer o chwaraewyr Lloegr yn chwarae iddyn nhw. Pan ddes i'n ôl i Gymru i wneud fy PhD, fe ymunais â Menywod Dinas Caerdydd, sef y tîm hynaf yng Nghymru, a'r clwb mwyaf llwyddiannus yng Nghymru o hyd, ac fe chwaraeais i iddyn nhw am y rhan fwyaf o'm gyrfa - clwb da iawn, iawn, yn ddatblygiadol iawn eu hagwedd, ond gydag ochr elît gref iawn i'r clwb hefyd. Fy mhrofiad cyntaf o'r gyfundrefn ryngwladol oedd mynd am dreial. Chefais i mo newis, i ddechrau, ond roeddwn yn chwaraewr wrth gefn ar gyfer y garfan. Wedyn, dwi'n meddwl, bu nifer o anafiadau a chefais fy ngalw i mewn ac fe gadwais fy lle, felly mae'n rhaid fy mod i wedi gwneud rhywbeth yn rhesymol o dda. Fe gadwais fy lle ac fe chwaraeais bob gêm rhwng 1993 a 1998. Does dim byd gwell na chystadlu dros Gymru, dim byd gwell i gefnogwr pêl-droed brwd na chael gwisgo'r crys coch. A dod yn gapten! Wel, mae hynny'n goron ar y cyfan, yn amlwg. Dydw i ddim yn twyllo'n hunan. Doeddwn i ddim y chwaraewr gorau yn y tîm o bell ffordd. Roeddwn i'n dda ond dwi'n meddwl mai bod yn rhan o dîm oedd fy nghryfder. Yn amlwg roedd gen i allu, ond roeddwn i'n chwarae gyda merched talentog iawn. Rydw i wedi gwerthfawrogi pob tro y bûm yn gapten ar Gymru a phob tro y chwaraeais. Roedd rhai chwaraewyr yn y carfannau a oedd mwy na thebyg yn fwy dawnus na fi ond yn ei werthfawrogi'n llai ac, o ganlyniad, ddim yn cael yr un cyfleoedd, ddim yn edrych ar ôl eu hunain cystal, o ran ffitrwydd a hyfforddi, ddim yn cyfrannu cymaint at y carfannau, a dwi'n meddwl bod hynny'n nodweddiadol o bob tîm chwaraeon, i ddweud y gwir. Yr eiliadau mawr i mi o ran pêl-droed? Wel, dwi'n meddwl yn sicr i Gaerdydd pan roedden ni'n gwthio i gael ein dyrchafu i'r Uwch Gynghrair ac fe wnaethon ni gael ein dyrchafu, profiad gwych, i chwarae yn erbyn Lerpwl ac Arsenal a Doncaster a Chelsea a'r timau gorau. A chwarae yn yr hen Barc yr Arfau yng Nghwpan Cymru. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi chwarae yno dair neu bedair gwaith, gan ennill y Cwpan ddwywaith. Roedden ni'n arfer chwarae cyn rownd derfynol y dynion, felly byddai tyrfa dda yno'n aml. Pan oedd Dinas Caerdydd yn y rownd derfynol, dwi'n meddwl bod tyrfa o tua 15- 16,000 yn y stadiwm erbyn i ni orffen ein gêm. A theithio gyda Chaerdydd, teithiau gwych i rai o'n gefeillddinasoedd fel Stuttgart a Nantes. Roeddwn i'n gapten ar y clwb am fwy neu lai saith, wyth mlynedd. Roedd e'n gyfrifoldeb mawr achos roedd gennym ni lawer o dimau ieuenctid a thimau plant. Roedd e'n un o'r clybiau chwaraeon gorau yng Nghymru o ran ei ffordd o weithredu a'r ffordd mae'n datblygu plant, felly roedd hynny'n anrhydedd fawr. O ran Cymru, mae pob un o'm 24 cap yn arbennig, yn amlwg, achos mae 24 cap yng ngêm y menywod mwy na thebyg yn werth tua 70 neu 80 yng ngêm y dynion, achos ein bod ni'n chwarae cymaint llai o gemau. Fe gefais i brofiadau bendigedig, yn chwarae mewn gwledydd fel Belarws ac Ynysoedd Ffaröe, llefydd na fyddech yn mynd iddynt oni bai eich bod yn rhan o dîm chwaraeon mawr. Y gemau dwi'n eu cofio fwyaf yw'r rhai a enillon ni achos roedden ni'n aml mewn grwpiau anodd iawn, fel mae tîm y dynion ar hyn o bryd. Os nad ydych ymysg y prif ddetholion, mae'n anodd iawn, iawn achos rydych chi'n cael eich paru gyda thimau fel yr Almaen neu'r Iseldiroedd neu Ffrainc neu Sbaen. Dwi'n cofio ennill ein gêm gyntaf yn erbyn yr Alban yn y Drenewydd 4-1, y gêm gyntaf imi ei chwarae, fe ddylwn i ddweud. Y gêm gyntaf pan oeddwn i'n gapten ar Gymru oedd yn erbyn Ynysoedd Ffaröe ym Mangor, profiad arbennig iawn. Roedd fy gêm olaf yn arbennig hefyd, achos roeddwn i'n gwybod fy mod i'n mynd i ymddeol, ac fe chwaraeon ni ein gêm gymhwyso olaf yn erbyn Belarws yn Hwlffordd. Doeddwn i heb ddweud wrth bobl heblaw am fy nghyfeillion agos iawn o fewn pêl-droed fy mod i'n mynd. Roeddwn i'n gwybod na allwn ddal y ddysgl yn wastad rhwng bywyd proffesiynol a gyrfa chwaraeon o'r radd flaenaf, ac roedd rhaid imi wneud penderfyniad. Mwy na thebyg fy mod i wedi ymddeol yn eithaf ifanc; dwi'n meddwl mai dim ond tua 32 oeddwn i ac yng ngêm y menywod mae hynny'n ifanc iawn. Dwi'n meddwl y gallwn fod wedi chwarae am bedair blynedd arall, a dweud y gwir. Ond dyna oedd y penderfyniad cywir am lu o resymau, er ei bod yn ennyd deimladwy iawn achos dwi'n meddwl y gallwn fod wedi cael rhagor o gapiau. Mae i'w weld yn drueni gwrthod y cyfle i chwarae ond weithiau, mewn chwaraeon amatur, rhaid gwneud y penderfyniad iawn ar gyfer eich bywyd cyfan yn hytrach nag ar gyfer chwaraeon yn unig. Es i erioed i mewn i unrhyw gêm gan ddisgwyl colli. Dwi'n meddwl fod hynny'n rhyw fath o feddylfryd ennill y cawsom ein trwytho ynddo. Doeddwn i byth yn meddwl y bydden ni'n colli, hyd yn oed os oedden ni'n chwarae'r Almaen neu un o'r timau gorau. Yn anffodus, chawson ni erioed y cyfle i chwarae Lloegr; chawson ni mo'n dewis yn yr un grŵp, a doedd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn gemau cyfeillgar yn ein herbyn ni achos doedden ni ddim yn genedl ddigon mawr iddyn nhw. Ond fe fyddai wedi bod yn braf ac efallai y gallem fod wedi cael gêm gyfartal. Mae pyramid datblygu iawn i ferched nawr, sy'n gweithredu drwy Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru a thrwy'r FAW unwaith eu bod yn 17+. Y peth pwysicaf yw bod strwythur clwb da yn y rhan fwyaf o rannau o Gymru. Mae cyfle i ferch chwarae'n gystadleuol neu am hwyl. Ddylen nhw ddim cael eu gwasgu allan o'r pyramid pêl-droed. Ar yr ochr gystadleuol ac elît, mae gennym dimoedd dan 14 a than 16 sy'n cael eu rhedeg drwy Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru, yna'r tîm dan 19 a'r tîm hŷn sy'n cael eu rhedeg drwy Gymdeithas Bêl-Droed Cymru ac, i fod yn deg â'r FAW, maen nhw wedi mentro; maen nhw wedi cefnogi hynny, maen nhw wedi datblygu hyfforddwyr da drwy gêm y menywod. Mae un o'm cyn-gydchwaraewyr rhyngwladol, Kath Morgan o Ferthyr, yn hyfforddwraig â thrwydded A erbyn hyn (yr unig fenyw yng Nghymru) a dwi'n meddwl bod hynny'n beth gwych i'w gyflawni. Dwi'n gwybod pa mor anodd oedd hi i'm cenhedlaeth i a, gadewch imi ddweud, roedd yn llawer gwaeth i'r genhedlaeth gynt, ond nawr mae gan bob merch ddawnus a phob merch sy'n mwynhau pêl-droed gyfle a dyna sut y dylai fod. cenedl hyderus Dwi'n sicr yn ystyried fy hunan yn Gymraes. Dwi'n meddwl fod gwerth hanesyddol ein gorffennol fel cenedl yn bwysig ond fod ble'r ydyn ni'n mynd nesaf yn llawer pwysicach, a dweud y gwir. Dwi'n hoffi llawer o bethau am y Gymru newydd sy'n rhoi tawelwch meddwl imi ein bod yn hyderus fel cenedl. Dwi'n meddwl fod datganoli wedi bod o gymorth anferth yn hynny o beth. Rydyn ni'n genedl greadigol iawn. Mae pethau fel y celfyddydau a cherddoriaeth yn bwysig iawn inni, ysgrifennu a llenyddiaeth hefyd, ond hefyd synnwyr o dirluniau gwahanol Cymru a'r cymunedau gwahanol. Pan fyddwch yn gyrru ar hyd yr A470, o'r gogledd i'r de neu o'r de i'r gogledd, rydych chi'n sylweddoli mor amrywiol ydyn ni fel cenedl, yn nhermau demograffeg a diwydiant a thirlun. Dwi yn meddwl bod rhyw fath o ymdeimlad rhwng Cymry a'i gilydd; rydyn ni'n genedl groesawgar iawn, yn genedl agored iawn, ac yn genedl uniongyrchol iawn. Dwi wastad yn gwenu pan dwi'n byw a gweithio yn Lloegr achos mae'r Saeson yn fwy tawedog (oni bai eich bod mewn lle fel Lerpwl. Mae hynny'n wahanol iawn i Lundain). Fel cenedl, rydyn ni'n grŵp diddorol iawn o bobl, yn grŵp amrywiol iawn o bobl, ond dwi hefyd yn meddwl ein bod ni'n groesawgar iawn; felly os ydych chi'n byw yn neu o amgylch dinas fel Caerdydd ac yn edrych ar Somaliaid trydedd a phedwaredd genhedlaeth, er enghraifft, pobl o Bacistan, Bangladesh, pobl sydd wedi bod yng Nghaerdydd ers amser maith ac yn teimlo eu bod yn Gymry Pacistanaidd neu'n Somaliaid Cymreig neu beth bynnag, dwi'n meddwl fod hynny'n beth cadarnhaol iawn. Mae'n ychwanegu mwy o gyffro a sbarc at ein hunaniaeth ni. Os ydych chi'n edrych ar rai o'n sêr chwaraeon gorau, maen nhw'n adlewyrchu'r gymysgedd o bobl sydd gennym ni yng Nghymru. Mae gan Ryan Giggs wreiddiau Affricanaidd, Colin Jackson, yn amlwg, Colin Charvis. Ac mae mwy iddi na du a gwyn yn unig. I mi, mae'n ymwneud â'r math o brofiadau mae pobl wedi eu cael. Os gwelsoch chi ffilm Howard Winstone, Risen, rydych yn cael ymdeimlad o sut gwnaeth ei gefndir diwydiannol, ac yntau'n dod o le fel Merthyr, lunio'r paffiwr Johnny Owen, a Colin Jones o Abertawe, a oedd yn ddyn arbennig, sy'n hyfforddi ein carfan ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, nawr. Mewn chwaraeon yng Nghymru, dwi'n meddwl bod o ble maen nhw'n dod fel mabolgampwyr wedi helpu i'w llunio'n gystadleuwyr. Edrychwch ar Nicole Cooke a lle buodd hi'n ymarfer ar hyd arfordir Sir Forgannwg ac fe ddywedith hi wrthych fod y bryniau a'r copaon a'r clogwyni wedi ei helpu i ddod yn gystal athletwraig ag yw hi. Mae pawb yn cael ei lunio gan ei famwlad. Fe enillon ni chwarter o holl fedalau aur tîm Prydain yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing. Mae hynny'n syfrdanol, chwarter y medalau i genedl sy'n 5% o'r boblogaeth, llai na thair miliwn o bobl. Pam? Wel, byddech chi'n disgwyl imi ddweud strwythurau yn y lle cyntaf, yn enwedig gyda chwaraeon Paralympaidd. Rydyn ni'n cymryd chwaraeon i'r anabl o ddifrif yng Nghymru. Rydyn ni'n esiampl i chwaraeon Paralympaidd rhyngwladol. Wnaeth y Paralympiaid hynny ddim digwydd drwy ddamwain, wnaethon nhw ddim ymddangos o ddim byd. Fe ddaethon nhw drwy'n strwythurau datblygu ni yn Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae'r corff llywodraethol wedi gwneud yn wych yn uno'r ochr gymunedol, fel bod plant sydd ag anabledd yn dod cyn agosed â phosib at gael yr un profiad chwaraeon â'r rhai nad ydynt yn anabl. Mae hynny'n bwysig iawn, achos dwi'n meddwl ei bod hi'n her fawr i gael rhieni i deimlo y gall eu plant nhw wneud yr un pethau â phlentyn sydd ddim yn anabl. Mae'n dasg anodd achos dydy cymdeithas ddim yn gweld pethau yn y ffordd hynny eto. Fyddan nhw ddim i gyd yn mynd ymlaen i ennill medalau - mae hynny'r un peth mewn chwaraeon i'r rhai abl o gorff - ond fe fydd rhai, a'n gwaith ni yw sicrhau fod y strwythur datblygu yn iawn fel bod y plant sydd â'r dalent yn dod yn athletwyr sy'n cystadlu ar lefel uchel ac yna'n symud ymlaen i lwyddo un ai yng Ngemau'r Gymanwlad neu yn y Gemau Olympaidd. Felly, fe fyddech yn disgwyl imi ddweud strwythur ac fe fyddwn i'n dweud hynny. Rydyn ni wedi buddsoddi llawer o amser, arian, sylw ac adnoddau i gael y strwythur yna'n iawn. Ond, os ydych chi'n edrych ar chwaraeon yn gyfan gwbl, byddwn yn dweud fod ambell i reswm arall pam rydyn ni'n gwneud yn well na'r disgwyl. Mae chwaraeon yn bwysig inni, yn fwy felly nag i lawer o wledydd mwy na thebyg gan eu bod yn adlewyrchu ac yn cynrychioli ein hunaniaeth. Mae pob gwlad fach yn frwdfrydig dros chwaraeon gan eu bod yn ein galluogi ni i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, fel cenedl. Mae'n caniatáu i bobl ddweud, "Nefoedd, 'tydi Cymru'n dda mewn rygbi", "'Tydi Craig Bellamy yn beldroediwr gwych a Chymro ydy e, wyddoch chi", "'Tydi Ryan Giggs yn esiampl fendigedig". Mae'r pethau hyn i gyd yn rhoi dimensiwn arall i'n hunaniaeth ni. Dwi'n meddwl fod pobl Cymru ychydig yn fwy brwdfrydig nag unrhyw le arall fwy neu lai ynglŷn â chwaraeon. Maen nhw'n hoffi gweld llwyddiant. Fe fyddwn yn gweld hynny gyda Gemau'r Gymanwlad. Os byddwn ni'n ennill medal mewn saethu neu fowlio neu unrhyw un o'r campau hynny, fe fydd pobl lawn mor frwdfrydig a hapus am hynny ag y byddan nhw os byddwn ni'n ennill medal ar y trac athletau. Mae'n anodd iawn dod o hyd i dystiolaeth fod llwyddiant yn cael effaith ar y genedl. Dyna'r ddadl nawr ynglŷn â'r Gemau Olympaidd yn 2012 a'u gwaddol: i ba raddau fyddwn ni'n gallu dangos fod brwdfrydedd plant o weld athletwyr gorau'r byd ar eu stepen drws - ac fe fyddant ar eu stepen drws hyd yn oed yng Nghymru - yn codi'r awydd ynddynt i fynd allan i chwarae tennis neu redeg ar y trac neu ddechrau hwylio neu ganŵio neu wneud unrhyw gamp? Mae'n anodd iawn ei brofi ond dwi'n meddwl fod y dystiolaeth i gyd yn pwyntio tuag at hynny. uno pobl Mae angen modelau rôl ar blant, does dim dwywaith am hynny. Mae gweld yr athletwyr gorau yn llwyddo yn esiampl dda iawn, iawn. I mi, mae a wnelo'r waddol â'u dal nhw yn y strwythurau chwaraeon sydd gennym ni. Does dim angen gwneud pethau newydd. Mae angen gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn well. Felly, er enghraifft, os yw plentyn yn gweld Jazz Carlin yn y pwll, Rhys Williams neu Dai Greene ar y trac yn Delhi ac yna yn Llundain 2012, fe ddylai e neu hi wybod fod clwb athletau da yn eu cymuned gyda hyfforddwyr da, gyda strwythurau da a gyda chyfleoedd cystadlu da y gallan nhw fanteisio arnynt. Yn yr un modd, os yw plentyn bach iawn yn cael ei gyffroi gan hoci, er enghraifft, pan fydd e neu hi'n mynd i'r ysgol bydd rhaglen Campau'r Ddraig a rhaglen 5x60 yn yr ysgol uwchradd yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan yn y gamp honno i gael gweld a ydyn nhw'n dda ynddi. Does dim ots pa mor dda ydyn nhw, os ydyn nhw'n mwynhau'r gamp fe ddylen nhw gael y cyfle i chwarae. Dwi'n gobeithio mai felly bydd pethau'n gweithio o ran y waddol. Bydd yn ychwanegu capasiti at ein rhaglenni, bydd yn dangos fod y buddsoddi sy'n digwydd i yrru chwaraeon, 5x60 ac yn y blaen, yn talu ar ei ganfed. Dydw i ddim yn y busnes o ddweud y dylai fod yn chwaraeon a dim byd arall. Fe wnes i bethau eraill hefyd fel plentyn, pethau fel cerddoriaeth a chelf. Fodd bynnag, byddwn yn dweud fod chwaraeon yn cynnig ystod ehangach o fanteision nag y gall gweithgareddau eraill eu rhoi i blant a dyna pam y dylent fod wrth galon popeth mae plant yn ei wneud. Yn amlwg, mae eu hiechyd corfforol yn bwysig. Rydym yn gwybod fod lefelau uchel o ordewdra ymhlith plant mewn gwlad fel Cymru; rydyn ni'n gwybod ein bod yn gwneud yn wael iawn ar bob mesur o dlodi plant. Gall chwaraeon fod yn rym integreiddio arbennig: gallech fod yn bêl-droediwr gwych er nad ydych wedi cael addysg a'ch bod yn dod o gefndir tlawd iawn. Mae'n uno pobl, mae'n rhywbeth sy'n cysylltu pobl â'i gilydd. Mae hefyd yn dod â sgiliau i bobl. Mae gennym gymaint o dystiolaeth o'n rhaglen 5x60 lle mae plant, yn enwedig yn y cymoedd, neu yng Nghaergybi neu Ddoc Penfro, y rhannau tlotaf o Gymru, wedi dysgu sgiliau newydd drwy chwaraeon. Maen nhw wedi ennill dyfarniad Arweinydd Pêl-droed, neu maen nhw wedi hyfforddi i fod yn athro dawns trefol neu'n hyfforddwr pêl-fasged ac weithiau mae hynny yn ffordd o gael plant yn ôl i mewn i'r system. Efallai na fydden nhw'n mynd i wneud rhywbeth pe bai wedi'i seilio ar gwricwlwm yr ysgol, ond os yw e'n rhywbeth sy'n dal eu dychymyg mae'n ffordd o'u bachu nhw'n ôl i mewn. Gall chwaraeon wneud llawer o bethau na all unrhyw weithgaredd arall eu gwneud, a dyna pam y dylent fod wrth galon yr hyn mae plant yn ei wneud. yr unig fenyw yno Rydyn ni'n dal i weithio mewn maes sy'n cael ei ddominyddu bron yn llwyr gan ddynion, yn enwedig mewn chwaraeon proffesiynol. Pe baech chi'n edrych ar yr holl gyrff llywodraethu yng Nghymru, dim ond un Prif Swyddog Gweithredol benyw (mewn hoci) sydd gennym ar hyn o bryd. Ychydig iawn o fenywod sydd ar Fyrddau llawer o'r cyrff llywodraethu eraill, felly mae rheoli a rhedeg chwaraeon yn dal i fod yn faes gwrywaidd iawn. Dwi'n ffodus fy mod i wedi cael fy mhenodi'n Gadeirydd y sefydliad hwn, Chwaraeon Cymru, a dwi'n falch iawn o gael y swydd honno. Ond fe alla i fynd i bum cinio mewn mis ac mewn pedwar ohonynt, fi fydd yr unig fenyw yno fwy neu lai, a dydy hynny ddim yn iawn achos fe ddylai chwaraeon fod i bawb. Rydyn ni wedi siarad am chwaraeon i'r anabl a chwaraeon i bobl o gefndiroedd ethnig gwahanol. Mae'n rhaid i chwaraeon fod ar gyfer y ddau ryw hefyd, pob camp. Allwn ni ddim cael sefyllfaoedd lle mae chwaraeon menywod yn cael eu hanwybyddu. Dydy chwaraeon ddim yn cael eu rhedeg gan fenywod a dwi'n meddwl bod rhaid i hynny newid. llundain 2012 Rydw i ar fwrdd UK Sport ac rydym yn treulio llawer o amser yn ystyried i ba raddau mae campau yn llwyddo i symud tuag at eu targedau i gynyddu'r nifer o fedalau; ond, i fod yn onest, roedd Beijing yn llwyddiant gwych i chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd Prydain, felly fe fydd hi'n anodd symud ymlaen ymhellach. Ond dwi'n meddwl ei bod hi'n bosib. Fe gawson ni nifer o bobl yn y pedwerydd safle a allai ennill medalau yn 2012. A rhaid peidio â diystyru'r fantais o gael Gemau cartref. Mae'n caniatáu inni ddatblygu rhai athletwyr ifanc yn gynt, a hynny gyda'r fantais o gystadlu ar ein tir ein hunain. Felly, pwy a ŵyr beth all rhai o'r rheini ei gyflawni. Dwi'n optimistaidd; dydw i ddim yn diystyru'r her achos mae llwyddiant yn dod â'i anawsterau ei hun, ond dwi'n meddwl y bydd rhai o'r athletwyr sydd gennym yng Nghymru sydd ar y cyfnod iawn yn eu gyrfa yn gwneud cyfraniad arbennig i Dîm Prydain yn 2012. Mae'r systemau i gynhyrchu athletwr Olympaidd o'r radd flaenaf yn wych. Rydyn ni wedi bod yn ffodus ein bod wedi gallu buddsoddi'n drwm iawn yn y cylch Olympaidd diwethaf, felly gadewch inni obeithio y bydd yr holl athletwyr a enillodd fedalau yn Beijing hefyd yn gallu sefyll ar y podiwm, un ris yn uwch mewn rhai achosion, yn 2012. Tri gair i ddisgrifio fy hun? Penderfynol. Angerddol. Styfnig, efallai. Mae'n debyg nad ydyn nhw'n gyfuniad rhy dda, ond maen nhw wedi bod yn dipyn o gefn i mi!

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw