Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Bu David Lloyd George yn gefnogwr i roi'r hawl i bleidleisio i fenwyod er yn gynnar yn ei yrfa wleidyddol. Eto i gyd nid oedd yn ddigon i'w gadw rhag derbyn ymosodiadau geiriol a chorfforol gan ymgyrchwyr. Cynyddodd yr ymosodiadau ar l iddo bleidleisio yn erbyn mesur yn 1910 a fyddai wedi rhoi'r bleidlais i rai menywod - rhai oedd yn berchen eiddo 'r hawl yn barod i bleidleisio mewn etholiadau lleol - a welai fel mesur a fyddai ond o les i'r Toraid. Yn ystod yr ymgyrchu byddai menywod yn ei ddilyn o gwmpas ac yn mynnu ei sylw. Pan yn agor y ganolfan gymunedol a roes yn rhodd i bentref Llanystumdwy fe'i dilynwyd yno gan ymgyrchwyr ond fe'u daliwyd hwy gan fechgyn lleol a dynnodd eu dillad i gyd oddi amdanynt.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw