Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Er ei fod yn awr yn treulio ei amser yn gweithredu ar lefel Brydeinig yr oedd rhai achosion "Cymreig" yn dal i gael sylw David Lloyd George, efallai'r pwysicaf o'u plith oedd achos datgysylltu'r eglwys. O'i ddyddiau cynnar yn Nhy'r Cyffredin yr oedd wedi hyrwyddo'r egwyddor. Ar l sawl mesur aflwyddiannus fe gyflwynwyd mesur newydd yn 1912. Yr oedd yn llawer mwy cymodol na fyddai'r disgwyl gan lywodraeth oedd Lloyd George yn aelod pwysig ohoni. Ond yr oedd yntau wedi newid, fel y sylwodd nifer o Anghyddffurfwyr Cymru: onid oedd y rhan fwyaf o'i gydnabod erbyn hyn yn Anglicaniad ac roedd yn chwarae golff ar y Sul. Er mwyn profi ei deyrngarwch i'w hen werthoedd fe ymgyrchodd yn galed dros y Mesur, ac fe'i pasiwyd yn ddeddf yn 1914 ar drothwy'r rhyfel. Wedi ychydig welliannau wedi'r rhyfel fe ddatgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru 31 Mawrth 1920. Yr un ddeddf a ddaeth datgysylltiad ddaeth ag Anghydffurfiaeth i ben hefyd, oherwydd nid oedd eglwys wladol yn bod yng Nghymru bellach.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw