Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas, tua'r flwyddyn 1875.

Ganed Sarah Jane Rees (Cranogwen, 1839-1916) yn Llangrannog, yn ferch i gapten llong. Derbyniodd rhywfaint o addysg ym maes morwriaeth yn yr ysgol leol ac yn ddiweddarach bu'n dysgu morwriaeth a mathemateg ei hun yn ysgolion Sir Aberteifi, Lerpwl a Llundain. Ym 1859 daeth dan ddylanwad y diwygiad crefyddol a dechreuodd arwain dosbarthiadau ysgol Sul a'r Gobeithlu (Band of Hope); bu hefyd yn pregethu yn achlysurol. Roedd hefyd yn barddoni ac yn ysgrifennu ac ym 1879 daeth yn olygydd 'Y Frythones', cylchgrawn annibynnol Cymraeg ar gyfer merched. Mae Cranogwen yn fwyaf adnabyddus am ei chyfraniad i'r mudiad dirwest a hi oedd un o sefydlwyr Undeb Dirwestol Merched De Cymru ym 1901. Yn dilyn ei marwolaeth agorwyd 'Llety Cranogwen', lloches ar gyfer merched digartref, er cof amdani yn y Rhondda ym 1922.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw