Sut i gofrestru

Cam 1: Cofrestru

Gall unrhyw un gofrestru a chreu cyfrif – mae’n rhad ac am ddim. Llenwch y ffurflen gais ar-lein; a byddwn ni’n anfon e-bost dilysu i gadarnhau eich cyfeiriad. Cliciwch y linc yn yr e-bost i greu eich cyfrif. Os na allwch chi weld yr e-bost, cofiwch chwilio yn eich ffolder sothach.

 

Cam 2: Gosod manylion cyfrif

Pan fyddwch chi’n cofrestru, mae proffil defnyddiwr diofyn yn cael ei greu, gan defnyddio’r enw arddangos a ddewisoch. Gallwch olygu eich manylion cyfrif unrhyw bryd drwy glicio ar eich enw ar frig y dudalen, yna dewiswch Golygu eich proffil – gallwch hefyd newid eich cyfrinair, llun proffil neu ychwanegu dolen i’ch gwefan eich hun.

Enghraifftiau cyn ac ar ôl gosod manylion cyfrif:


ffigwr 3 – proffil defnyddiwr diofyn


ffigwr 4 – proffil wedi’i addasu

Hysbysiadau

Byddwch yn derbyn hysbysiad ar eich cyfrif hefyd, o dan eich proffil defnyddiwr. Byddwch yn derbyn hysbysiad pan fydd eitem wedi pasio (neu fethu) prawf cymedroli, a pan fydd defnyddwyr eraill yn ymwneud â eitemau rydych chi wedi’u cyhoeddi.


figwr 5 – enghraifft o hysbysiadau

 

Nesaf: Uwchlwytho