Sut i chwilio

Gallwch chi chwilio’r wefan mewn dwy ffordd: Chwilio Cyflym; a Pori a Hidlo, sy'n defnyddio ystod o gategorïau dyddiad a phwnc.

Chwilio Cyflym

Agorwch y blwch chwilio ar yr Hafan, teipiwch allweddair, a phwyswch Return. Chwiliad tebyg i ‘Google’ yw hwn sy’n canfod canlyniadau yn cynnwys un neu fwy o’r allweddeiriau. Caiff y canlyniadau eu rhestru fesul y mwyaf diweddar.

search icon
ffigwr 1 – y blwch chwilio ar yr Hafan

Defnyddiwch gymeriadau arbennig ar gyfer chwiliadau mwy penodol:

Cymeriad Chwiliad Enghraifft Disgryfiad
, un neu'r llall llyfr, hen Chwilio am llyfr neu hen
+ rhaid cynnwys llyfr +hen Chwilio am llyfr rhaid cynnwys hen hefyd
- ni ddylid cynnwys llyfr -hen Chwilio am llyfr ond nid hen
* chwiliad amwys aber* Chwilio am eiriau fel aberrhywbeth

Pori a Hidlo

Ewch at dudalen Y Casgliad, ble mae’r eitemau wedi eu grwpio mewn categorïau. I gyfyngu’r nifer o ganlyniadau, yn yr esiampl isod mae’r ffilter Chwedlau a storïau wedi darganfod 27 o ganlyniadau – 19 Eitem, 2 Casgliad a 5 Stori.

facets and categories
ffigwr 2 – esiampl o chwiliad

Cliciwch yr ‘x’ yn y tag glas i glirio'r ffilter.

 

Nesaf: Cofrestru