Hawlfraint

Beth yw Hawlfraint?

© Mae hawlfraint yn diogelu eich gwaith ac yn atal eraill rhag ei ddefnyddio heb ganiatâd.

© Mae eich gwaith wedi’i ddiogelu dan hawlfraint yn awtomatig, does dim rhaid gwneud cais neu dalu costau.

© Gallwch chi roi’r symbol hawlfraint ©, eich enw a’r flwyddyn greu ar eich gwaith. Nid yw hyn yn gwneud y gwaith yn fwy neu llai diogel.

© Mae hawlfraint yn diogelu: darluniau, paentiadau, rhyddiaith, cerddoriaeth, drama, ffotograffau, ffilmiau, rhaglenni teledu a chynnwys gwefannau.

Alla i uwchlwytho unrhyw eitem i wefan Casgliad y Werin Cymru?

Rhaid i chi roi cadarnhad i ni bod hawl gennych i uwchlwytho'r eitem i'r wefan drwy gadarnhau eich bod wedi darllen y Telerau Defnydd a Phreifatrwydd. Os hoffech chi unrhyw gyngor neu ganllawiau pellach, cysylltwch â ni.

Alla i ddefnyddio'r eitemau ar y wefan?

Mae pob eitem ar Gasgliad y Werin Cymru wedi ei gwarchod dan amodau cytundeb y Drwydded Archif Greadigol. Darllenwch dudalen y Drwydded Archif Greadigol am ragor o wybodaeth am y drwydded a pha hawl sydd gennych i ddefnyddio'r eitemau ar y wefan yn ôl y cytundeb trwyddedu.

Esiamplau o Hawlfraint ar waith

Senario 1.
Rydych wedi derbyn llythyr gan Mr. Evans. Chi sy'n berchen ar y llythyr fel gwrthrych real felly chi yw'r ‘Perchennog'. Fel awdur y llythyr, Mr Evans yw ‘Deiliad Hawliau' yr eitem; yr ‘hawlfraint' yn yr achos hwn. I gael hawl i ddigideiddio'r llythyr a'i gyhoeddi ar wefan Casgliad y Werin Cymru rhaid i chi gael caniatâd Mr. Evans. Caniatâd ysgrifenedig sydd orau. Mr Evans fydd ‘Deiliad Hawlfraint' y llythyr tan 70 mlynedd wedi diwedd blwyddyn galendr ei farwolaeth. Wedi'r dyddiad hwn, bydd yr eitem allan o hawlfraint.
Senario 2.
Llongyfarchiadau! Rydych chi newydd brynu paentiad gwreiddiol gan Kyffin Williams am £10,000. Rydych chi am greu copi digidol o'r paentiad a'i roi ar wefan Casgliad y Werin Cymru. Ond wnaethoch chi ystyried bod hawlfraint gwaith Kyffin Williams wedi'i drosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru cyn ei farw? Yn yr achos hwn, chi yw ‘Perchennog' y paentiad fel gwrthrych real, ond i greu gwaith deilliadol (copi) o'r paentiad rhaid i chi gael caniatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru sef ‘Deiliaid Hawliau' gwaith Kyffin Williams.