Rhyfel y Degwm yng Nghymru

Eitemau yn y stori hon:

  • 1,719
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,579
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 3,056
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,209
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Canrif o newid




Roedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ganrif o newid. Ar draws y wlad, roedd arloesiad a datblygiad cyflym yn newid y dirwedd ar raddfa ddigynsail. Ochr yn ochr â hyn, roedd agwedd y bobl hefyd yn newid. Daeth gweithwyr yn fwy lleisiol wrth ymwthio'u hawliau a defnyddiwyd protestiadau, terfysgoedd, deisebau a streiciau oll fel arfau yn yr ymdrech am fywyd gwell.



Mater o'r fath a daniodd dicter a phrotest oedd casglu taliadau'r Degwm. Roedd degymau'n daliadau traddodiadol a oedd yn caniatáu deg y cant o incwm blynyddol pobl i'r eglwys. Fel arfer gwnaed y taliadau mewn nwyddau fel cnydau, gwlân, llaeth a chynhyrchion eraill, i gynrychioli degfed ran o'r cynnyrch blynyddol.



Gorchmynnwyd y taliadau hyd yn oed pe na bai'r plwyfolyn yn mynychu'r eglwys, ac mewn gwlad anghydffurfiol gan fwyaf fel Cymru, roedd hyn yn naturiol yn gynhennus.




Anhapusrwydd gyda'r degwm




Ym 1836 pasiwyd Deddf Cyfnewid y Degwm, gan amnewid talu mewn nwyddau am dalu gydag arian parod. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau y byddai taliadau'n cael eu gwneud yn gyflym drwy'r wlad. Fel canlyniad lluniwyd y Mapiau Degwm, gan gynnig astudiaeth gynhwysfawr o dirwedd Cymru yn ystod y 1830au a'r 1840au.



Yr adeg honno, roedd y rhan fwyaf o ffermwyr yn Anghydffurfwyr a oedd yn cyfrannu i gadw'u henwadau o'u pocedi'u hunain. Roedd cael eu gorfodi i gyfrannu i'r Eglwys Anglicanaidd, nad oedd ganddynt gysylltiad â hi, yn pryfocio dicter a chwerwedd.



Roedd anhapusrwydd parhaus am y sefyllfa ond gwaethygwyd tyndrau gan y dirwasgiad amaethyddol a ddechreuodd yn y 1870au. Gwrthododd llawer â thalu'r degwm ac yn ystod y 1880au gwerthwyd eiddo dan orfodaeth gan yr awdurdodau er mwyn casglu'r trethi. Yn naturiol, arweiniodd hyn at wrthdaro a bu ymladd rhwng ffermwyr a'r awdurdodau ledled y wlad. Bu aflonyddwch yn Sir Gaerfyrddin, yng Ngheredigion ac ardaloedd gwledig eraill ond roedd y gwrthdaro'n waeth yn Sir Ddinbych nag yn unman arall.




Rhyfel y Degwm yn Sir Ddinbych




Dinbych oedd pencadlys Cynghrair Tir Cenedlaethol Cymru a oedd yn seiliedig ar Gynghrair Tir Iwerddon ac yn lobïo yn erbyn talu'r Degwm yn orfodol. Nid oedd ffermwyr Sir Ddinbych o reidrwydd yn fwy anfodlon nag eraill yn y wlad ond roedd presenoldeb pencadlys y Cynghrair, yn ogystal â dylanwad y dyn lleol Thomas Gee, yn golygu fod tyndrau yn anarferol o uchel yn yr ardal. Gee oedd perchennog y papur newydd Cymraeg 'Baner ac Amserau Cymru', ac roedd yn weithgar yn yr ymgyrch yn erbyn y Degwm.



Yn ystod diwedd y 1880au penderfynodd llawer o ffermwyr weithredu'n uniongyrchol a gwrthod talu'u Degwm. Gwnaed mwy o werthiannau eiddo a thir gorfodol a bu protestiadau ffyrnig yn Llangwm ym mis Mai 1887, ym Mochdre ym mis Mehefin 1887 ac yn Llanefydd ym mis Mai 1888. Yn dilyn y digwyddiad yn Llangwm, anfonwyd 31 o brotestwyr i'r llys ac anafwyd 84 o bobl ym mhrotest Mochdre, gan gynnwys 35 o swyddogion yr heddlu. Cafodd y protestiadau eu galw'n 'Rhyfel y Degwm', a chanmolwyd gweithredoedd y protestwyr gan bapur newydd Gee wrth i fomentwm yr ymgyrch gyrraedd ei hanterth. Anfonwyd milwyr i ardal Sir Ddinbych ym 1888 er mwyn rheoli'r anniddigrwydd ac amddiffyn casglwyr y degwm wrth iddynt wneud eu gwaith amhoblogaidd.




O'r Degwm i Ddatgysylltu




Daeth 'Rhyfel y Degwm' i ben i bob pwrpas ym 1891 pan drosglwyddodd Ddeddf y Degwm y cyfrifoldeb am dalu'r degwm o'r tenant i'r landlord. Roedd yr ymdrech wedi dod â materion Cymreig i frig agenda gwleidyddol Prydain, gan ei fod  mor gysylltiedig ag ymgyrch Datgysylltiad yr Eglwys Gymreig. Achubodd unigolion fel David Lloyd George ac yn arbennig T. E. Ellis y cyfle i gryfhau'r achos dros ddatgysylltiad. Cyflawnwyd hyn yn y pendraw gyda phasio Deddf yr Eglwys Gymreig ym 1920.