cac01121

Dywed y cyfwelai mai rhaglenni plant mae'n eu cofio'n bennaf, roedd yn ei arddegau cyn cael teledu yn y cartref. Gwyliodd seremoni'r Coroni gyda chriw o bobl, mae'n cofio bod y llun yn sal a fod chwyddwydr wedi cael ei roi dros y sgrin er mwyn gallu'i gweld yn well. Gwelodd y seremoni yn y sinema hefyd, roedd parti yn y stryd ar y diwrnod.Ei hatgofion am Aberfan yw gweld plentyn yn cael ei dynnu allan yn fyw o'r rwbel. Roedd yn gweithio yn Swyddfa'r Post yng Nghaernarfon adeg yr Arwisgiad ac roeddent yn gallu gweld y digwyddiadau ar y Maes o ben yr adeilad. Cawsant fenthyg deledu lliw gan siop yn y dref i weld beth oedd yn mynd ymlaen y tu mewn i'r castell. Cofio clywed bod gan y BBC broblem gyda chamerau lliw gan fod angen rhai ar gyfer Wimbledon yn fuan wedyn hefyd.Cofio personoliaethau Arthur Scargill a Margaret Thatcher o gyfnod Streic y Glowyr, cofio gweld gwrthdaro ar y newyddion a meddwl mai dyna oedd y cyfryngau eisiau ei ddangos. Byddai'n gwylio rygbi yn y dafarn bob tro oedd yn gallu ac yn mwynhau'n arw.

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 407
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 725
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 500
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 471
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi