Capel Peniel, Tremadog

Saif Capel Peniel ym mhorth deheuol tref gynlluniedig Tremadog. Roedd ei gynllun blaen talcen ac awditoriwm arloesol yn hynod o ddylanwadol yn esblygiad dyluniad capeli Cymru ac mae ei bortico pedimentog gyda cholofnau Tysganaidd yn ei wneud yn un o gapeli mwyaf eiconig Cymru.

Prosiect entrepreneur o Lundain, William Madocks, oedd Tremadog. Prynodd hwnnw’r corstir yn 1798 gan feddwl sefydlu tref ar y llwybr masnach rhwng Llundain ac Iwerddon. Cwblhawyd y capel Methodistaidd yn 1810, a phan gafodd ei helaethu yn 1849 yn unol â’r dyluniadau gwreiddiol, mae’n bosib mai hwn oedd y capel mwyaf trawiadol yng Nghymru, a’i du blaen temlaidd wedi’i seilio’n llac ar eglwys St Paul Inigo Jones yn Covent Garden. Nid oedd Madocks ei hun yn anghydffurfiwr, felly sioc i rai oedd iddo ganiatáu capel yn y dref. Ond nid oedd Madocks yn gweld bygythiad yn y syniad o godi capel mor fawr, gan nodi bod “yr eglwys wedi’i hadeiladu ar graig, a’r capel wedi’i adeiladu ar dywod”. Llywyddwyd dros y seremoni agoriadol gan y pregethwr dylanwadol, y Parch. Thomas Charles o’r Bala.

Wrth i’r gynulleidfa gynyddu, gosodwyd seddau newydd yn 1860, ehangu’r galerïau yn 1880, ac adnewyddu’r pulpud yn 1898. Wedi cau’r capel, fe’i prynwyd gan Addoldai Cymru yn 2010, ac mae prif swyddfa’r Ymddiriedolaeth yn ei ysgoldy.

Mae 6 eitem yn y casgliad

  • 1,143
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,185
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 948
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi