Bethania, Maesteg

Ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif gwelwyd cyfnod o ddiwydiannu mawr yng Nghymru. Llanwyd cymoedd y De â gweithfeydd haearn a phyllau glo, ac aeth y trefoli cynyddol hwn ymlaen ymhell i ganol y ganrif.

Dechreuodd cymuned o Fedyddwyr ymffurfio o blith gweithwyr haearn a glo Maesteg, gan ymgynnull ar y dechrau mewn cartrefi a thafarndai. Tyfodd y gynulleidfa hon nes iddynt fynd ati yn 1832 i ddechrau adeiladu’r Bethania cyntaf, mam eglwysi’r Bedyddwyr yng nghwm Llynfi.

Capel talcen hir fyddai hwn, yn wahanol i eglwysi Anglicanaidd yn ei symlrwydd diymffrost a’i bulpud canolog. Tyfodd y gynulleidfa ac, yn 1841, adeiladwyd capel mwy. Erbyn y 1850au roedd gan y capel gynulleidfa o ryw 700, ac roedd yr adeilad erbyn hyn yn ganolfan ddiwylliannol fyrlymus a gynhaliai ddigwyddiadau cymdeithasol a chymunedol, gwyliau ac eisteddfodau. Yn ddiddorol, yn un o’r eisteddfodau hyn yn y cyfnod hwn cafwyd darlith dan y pennawd ‘Ffeithiau daearegol a gwirioneddau’r Beibl: a ydynt yn gwrth-ddweud ei gilydd?’

Ehangwyd Bethania yn 1859 a’i ailadeiladu eto yn 1898. Cynnyrch ‘Diwygiad Mawr’ olaf 1904 oedd capel presennol Bethania ac fe’i hadeiladwyd yn 1908. Roedd wedi’i gynllunio mewn arddull Beaux Arts Glasurol gan y pensaer a oedd wedi’i eni’n lleol, Syr William Beddoe Rees, ac mae’n un o’i gampweithiau mwyaf. Dywedir bod seddi i hyd at 1001 o bobl yno.

Wedi iddo gau, fe’i dderbyniwyd i feddiant Addoldai Cymru yn 2006, a dyma’r capel mwyaf iddo’i dderbyn hyd yma.

Mae 8 eitem yn y casgliad

  • 877
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 788
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 959
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 829
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 998
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,652
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,716
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 2,628
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi